Mae cynigion gan Reform UK i ddechrau ffracio nwy yn Sir y Fflint a Wrecsam wedi cael eu condemnio gan gynghorwyr Plaid Cymru.
Mae ffracio yn defnyddio dŵr dan wasgedd uchel sy’n achosi ysgwydiadau bach dan ddaear i dorri creigiau a rhyddhau nwy. Daeth hyn yn fater mawr ddegawd yn ôl pan gyhoeddodd llywodraeth y Torïaid drwyddedau mewn sawl rhan o’r DU i gwmnïau echdynnu nwy drwy’r dull anghyffredin hwn. Dangosodd profion cynnar ger Blackpool fod ffracio’n achosi daeargrynfeydd bach, a ysgogodd brotestiadau lleol.
Ymhlith y protestiadau hynny roedd trigolion Wrecsam yn gwrthwynebu safle yn Commonwood ger Borras, a gafodd drwydded ar gyfer drilio prawf. Byddai’r drilio wedi tarfu ar yr haenau islaw Glofa Gresffordd, lle cafodd mwy na 260 o ddynion a bechgyn eu gladdu ar ôl y trychineb mwyngloddio enwog yn 1934.
Sefydlwyd protest ar y safle a chefnogwyd gan drigolion lleol. Yn y pen draw, cafodd y drilio ei ohirio a gorfodwyd gosod moratoriwm yn 2019.
Dywedodd Cynghorydd Plaid Cymru Carrie Harper, sy’n cynrychioli ward Queensway:
"Mae’n ddegawd ers i ymgyrchwyr lleol ddiogelu ein cymunedau rhag ffracio. Gorfodwyd y llywodraeth Dorïaidd i newid eu safbwynt oherwydd y protestiadau cyfannol, sydd yn syndod o ystyried yr arian a dderbynient gan gwmnïau tanwydd ffosil."
"Nid yw’n syndod clywed bod Reform, sydd yn bennaf yn gyn-wleidyddion Torïaidd hefyd yn ddibynnol ar gwmnïau tanwydd ffosil am eu cyllid, yn ceisio hyrwyddo ffracio yn ein cymunedau. Ni fydd Farage yn ymwybodol o’r protestiadau enfawr a wnaethpwyd yn ystod y drilio yn lleol a’r effaith bosibl ar gymunedau ledled Glannau Dyfrdwy a Wrecsam. Yr oedd yr ardaloedd trwyddedig gwreiddiol o Fostyn ac Aber Dyfrdwy i lawr i’r Maelor ger Llannerch Banna."
Cododd llywodraeth Tori Liz Truss y moratoriwm am gyfnod byr, ond rhoddwyd y moratoriwm yn ôl yn gyflym ar ôl iddi ymddiswyddo.
"Mae hyn yn fenter beryglus. Byddan nhw’n drilio trwy ddyfrhaen, trwy haenau glo a gweithfeydd gyda phocedi methan peryglus. Byddan nhw’n defnyddio cymysgedd o gemegau ac yn ffracio’r creigiau o dan wasgedd uchel i ryddhau’r nwy – mae peryglon amlwg a gall ddigwydd ar ein stepen ddrws."
"Bysa’r cynnig ddegawd yn ôl i drilio wedi effeithio ar weddillion y dynion a’r bechgyn a gollwyd yn drychineb Glofa Gresffordd – nid yw hynny’n dderbyniol a dylai Reform deall nad yw ffracio yn cael ei groesawu yma."