Plaid Cymru yn lansio ymgyrch dros ysbyty cymunedol yn Y Groves

Plaid Cymru yn lansio ymgyrch dros ysbyty cymunedol yn Y Groves

Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn nhref Wrecsam wedi lansio ymgyrch i drawsnewid safle ysgol adfeiliedig Y Groves, yng nghanol y dref, yn ysbyty cymunedol holl angenrheidiol.

Dywed y cynghorwyr y byddai’r adnewyddu yn helpu i leddfu’r pwysau ar Ysbyty Wrecsam Maelor ac yn darparu gofal cam nesaf i gleifion nad oes angen iddynt fod mewn gwelyau aciwt.

Dywedodd Y Cynghorydd Marc Jones, arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Wrecsam:

“Mae safle ysgol Y Groves wedi aros yn adfeiliedig am fwy na degawd, ac mae llawer o drafod wedi bod am beth y gellid ei ddefnyddio. Mae sawl cynllun wedi methu ac nid oes arwydd o unrhyw weithgarwch cadarnhaol ar y safle pwysig hwn yng nghanol y dref. Ar yr un pryd, rydym i gyd yn cydnabod bod y Maelor dan straen enfawr – yn rhannol oherwydd diffyg opsiynau cymunedol i symud pobl allan o welyau aciwt.”

Ychwanegodd Y Cynghorydd Carrie Harper:

“Mae creu ysbyty cymunedol yn ffordd o ryddhau’r straen yna – mae’n hanfodol ein bod yn datrys y tagfa sy’n gadael ambiwlansys yn aros am oriau y tu allan i’r Adran Frys am oriau, tra bod cleifion sydd yn barod i gael eu rhyddhau yn methu gadael yr ysbyty. Bydd hyn yn helpu hefyd i leddfu’r tagfeydd parcio yn y Maelor.”

Mae’r cynghorwyr yn cydnabod bod heriau i gyflawni’r math hwn o brosiect, gan gynnwys y costau cychwynnol a’r staffio. Amcangyfrifir y byddai cynllun tebyg ar gyfer ysbyty cymunedol ar safle hen Ysbyty Alex yn Y Rhyl yn costio £102 miliwn. Fodd bynnag, maent yn dadlau bod y fuddsoddiad yn hanfodol i ddarparu lleddf mewn gofal ar gyfer y Maelor sydd wedi ei orlwytho.

Dywedodd Cyng Harper:

“Bydd staffio cyfleuster newydd yn heriol o ystyried y swyddi gwag ym meysydd nyrsio a clinigol yn bresennol, ond credwn fod yna cyfleoedd i weithio gyda Phrifysgol Wrecsam, sydd yn darparu hyfforddiant i nyrsys a gweithwyr iechyd cydweithredol fel paramedigion a radiograffwyr, i sicrhau fod swyddi ar gael i raddedigion.”

Dywedodd y cynghorydd lleol ar gyfer Acton a Maesydre, Becca Martin, sy’n cwmpasu Y Groves:

“Rwy’n llawn gefnogaeth i’r math hwn o ddatblygiad ar safle ysgol Y Groves. Mae gan y Maelor brinder sefydlog o welyau, sy’n cael sgil-effaith ar yr holl ysbyty. Gall rhyddhau’r gwelyau yma drwy ddefnyddio’r safle yn y ffordd hon arwain at brofiad mwy gyflym ac esmwyth i gleifion. Byddwn hefyd yn croesawu datblygu safle sydd wedi aros yn adfeiliedig am rhy hir.”

Ychwanegodd Cyng Jones y byddai ysbyty newydd yn dod â bywyd newydd i’r safle:

“Bydd sicrhau agwedd hyfforddiant ac addysgol ar y safle yn cwrdd â’r cydymffurfiaeth addysgol ac yn darparu meddwl cysylltiedig rhwng ein sefydliadau er fudd pobl Wrecsam. Bydd gwell gofal iechyd hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar ymrwymiadau gofal cymdeithasol. Gellir lleoli gofal mân anafiadau, adsefydlu a gofal ataliol yn yr ysbyty cymunedol yn hytrach na gorfod gwasgu’r holl wasanaethau ar un safle cyfyngedig.

“Dyma gyfle i wneud rhywbeth sydd yn amlwg yn elwa cannoedd o bobl nad oes angen iddynt fod mewn gwely aciwt ac i roi bywyd newydd i adeilad adfeiliedig. Gobeithiwn y bydd y cynnig ar gyfer ysbyty cymunedol yn cael ei ystyried o ddifrif ac yn cael ei ddatblygu er budd trigolion Wrecsam.”

Cymryd Camau:

Os ydych chi am gefnogi’r ymgyrch a helpu i greu ysbyty cymunedol yn Y Groves, gallwch lofnodi’r ddeiseb yma i alw ar gynigion y cynghorwyr Plaid Cymru gael eu gweithredu.